Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 21 Tachwedd 2013 |
|
|||
Amser: |
10:30 - 12:00 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: AC(4)2013(17) |
|||||
|
|
|
|||
Yn bresennol: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Angela Burns Sandy Mewies Rhodri Glyn Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog) Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad (Swyddog) Dave Tosh, Cyfarwyddwr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (Swyddog) Craig Stephenson, Prif Gynghorydd y Llywydd (Swyddog) Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn (Swyddog)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding, Y Dirprwy Lywydd Mair Barnes, Cynghorwr Annibynnol
|
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad
1(i) Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Black AC.
1(ii) Datganiadau o fuddiant
Nid oedd buddiannau i’w datgan.
1(iii) Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
2 Cyfieithu peirianyddol: gwella ein capasiti cyfieithu
Roedd y Cynllun Ieithoedd Swyddogol, y cytunodd y Cynulliad arno ym mis Gorffennaf 2013, yn cynnwys ymrwymiad y byddai Comisiwn y Cynulliad yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg i gyfieithu dogfennau er mwyn ei gwneud yn bosibl i fwy o ddogfennau, gan gynnwys Cofnod y Trafodion, gael eu darparu yn y ddwy iaith ar yr un pryd.
Yn dilyn cytundeb yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis Mehefin, bu’r Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi’n gwerthuso datrysiadau Google a Microsoft Translator at y dibenion canlynol, er mwyn:
- galluogi’r Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi i gynyddu lefelau allbwn a darparu ystod ehangach o wasanaethau drwy gyfieithu mwy o destun mor gyflym ac mor gost effeithiol ag y bo modd;
- darparu cyfieithu peirianyddol nid yn unig i’r Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi ond hefyd i aelodau eraill o staff y Cynulliad, Aelodau’r Cynulliad a’u staff hwy drwy ddarparu system hunan-wasanaeth ar gyfer cyfieithiadau ‘bras’ i hwyluso cyfathrebu ac arferion gwaith yn yr iaith a ddewisir;
- rhannu’r gwasanaethau a’n profiadau â sefydliadau eraill yng Nghymru.
Mae gwaith wedi cael ei wneud i asesu ansawdd yr allbwn a ddarperir gan y ddwy system.
Bydd swyddogion yn parhau i weithio gyda Microsoft i ddatblygu’r offeryn cyfieithu gyda’r bwriad o’i sefydlu fel system newydd a fydd ar gael yn gyhoeddus ar adeg briodol yn 2014. Bydd Google yn parhau i gael ei dreialu o fewn y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi fel y gellir profi effeithlonrwydd y system hon yn llawn.
Roedd y Comisiynwyr yn falch o’r cynnydd sy’n cael ei wneud mewn perthynas ag asesu gallu’r ddau offeryn cyfieithu peirianyddol. Rhoddwyd pwyslais ar y ffaith y byddai manteision y mathau hyn o gyfleusterau nid yn unig yn cyfranu’n sylweddol at allu pobl yn y Cynulliad i weithio yn eu dewis iaith, ond mae ganddynt y potensial i fod o gymorth mawr i sefydliadau a busnesau eraill yng Nghymru a thu hwnt. Dylai swyddogion ymgysylltu â phartïon sydd â diddordeb ac arbenigwyr ym maes cyfieithu i drafod y manteision a’r cyfleoedd a gynigir gan offerynnau o’r fath.
Teimlwyd y byddai angen canllawiau a hyfforddiant i’w gwneud yn haws i bobl ddefnyddio’r offerynnau hynny yn y Cynulliad ac i sicrhau eu bod yn ymwybodol o rai o’r risgiau o ran cywirdeb allbwn y system hon. Ni fyddai unrhyw allbwn cyfieithu peirianyddol heb ei ôl-olygu yn briodol i’w ddefnyddio ar gyfer dogfennau i’w cyhoeddi y tu allan i’r Comisiwn a byddai’n hanfodol bod y safonau uchel sy’n ofynnol ar gyfer dogfennau a gyhoeddir yn cael eu cynnal.
Diolchwyd i’r swyddogion am wneud cynnydd sylweddol ar y prosiect hwn dros gyfnod cymharol fyr o amser.
3 Unrhyw Fusnes Arall
Yr Ysgrifenyddiaeth
Tachwedd 2013